Pleidleisio yn agor mewn: 00 00 00 00 Defnyddia dy lais
Cyngor

Sut mae’n cael ei ethol?

Mae awdurdodau lleol, a elwir hefyd yn gynghorau neu’n llywodraeth leol, yn chwarae rhan bwysig wrth lywodraethu Cymru. Maent yn darparu arweinyddiaeth a gwasanaethau lleol i’w cymunedau. Mae 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru, sy’n gyfrifol am dros £5 biliwn mewn gwariant cyhoeddus bob blwyddyn.

Mae cynghorau Cymru yn darparu mwy na 700 o wasanaethau lleol, gan gynnwys addysg, tai, gwasanaethau cymdeithasol a thrafnidiaeth. Maent hefyd yn gyfrifol am amrywiaeth o wasanaethau cymdogaeth gan gynnwys llyfrgelloedd a chasglu sbwriel (y biniau!).

Mae dyletswyddau statudol gan gynghorau hefyd, sy’n golygu bod gorfodaeth gyfreithiol arnynt i gyflawni’r dyletswyddau hyn. Mae’r rhain yn cynnwys gwneud cynnydd tuag at gydraddoldeb a rhoi terfyn ar wahaniaethu. Mae angen i gynghorau hefyd sicrhau bod pob penderfyniad a wnânt yn ystyried anghenion cenedlaethau’r dyfodol.

Cofrestrwch ar gov.uk

Cofrestrwch i bleidleisio erbyn 14eg Ebrill 2022. Os na fyddwch wedi cofrestru mewn pryd, ni chewch bleidleisio yn yr etholiadau lleol ar 5ed Mai, ac ni fyddwch yn cael dweud eich dweud yn nyfodol eich cymuned.

Ewch i wefan Gov.uk i gofrestru i bleidleisio heddiw. Dim ond pum munud fyddwch chi!

“There’s no such thing as a vote that doesn’t matter. It all matters.” Barack Obama

More advice

View all
Pleidleisio yn agor mewn: 00 00 00 00 Defnyddia dy lais