Pleidleisio yn agor mewn: 00 00 00 00 Defnyddia dy lais
Cyngor

Beth mae'r Senedd yn ei wneud?

The Senedd building in Cardiff Bay

Fe wnaethon ni bleidleisio ym 1997 i symud y broses o wneud penderfyniadau ar rai pynciau o’r DU i Gymru. Ar y pryd, gwnaed y ddadl nad oedd gwneud penderfyniadau yn Llundain am wasanaethau lleol yng Nghymru a sut rydyn ni’n byw yn gwneud llawer o synnwyr.

Cadwyd llawer o wneud penderfyniadau a phwerau dros ddeddfau newydd yn Llundain, a rhoddwyd gwahanol bwerau i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae rhai o’r pwerau hyn wedi newid dros yr 20 mlynedd diwethaf, ond ar y cyfan, mae gan Gymru gyfrifoldeb am bopeth o dan y pynciau hyn: Addysg, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth, yr Amgylchedd, Diwylliant a’r Iaith Gymraeg.

Mae Llywodraeth y DU a Senedd y DU yn dal i wneud penderfyniadau ar faterion allweddol. Mae’r rhain yn cynnwys: Materion Tramor ac Amddiffyn, yr Heddlu a Chyfiawnder Troseddol, a’r mwyafrif o bolisïau sy’n ymwneud â Threthi a Budd-daliadau. Mae yna bob amser ychydig o gymhlethdod yn y system ac weithiau mae anghytundebau rhwng y llywodraethau ynghylch pwy sy’n gorfod gwneud penderfyniadau, a gall rhai pwerau symud o un lle i’r llall dros amser o ganlyniad.

Powers of the Senedd

Felly beth mae hynny’n ei olygu i bobl ifanc yng Nghymru? Wel o’r holl bethau rydych chi’n dweud wrthym eich bod chi’n poeni amdanyn nhw o ddydd i ddydd, mae llawer ohonyn nhw’n cael eu penderfynu yn y Senedd a’u hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Felly pethau fel digartrefedd ymhlith pobl ifanc; arholiadau, ysgolion a cholegau; ffioedd myfyrwyr; mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd; gwasanaethau iechyd meddwl; tegwch mewn gwasanaethau lleol; taclo tlodi a sut mae ein cymunedau’n gweithio gyda’i gilydd. Mae’r Senedd yn delio â’r rhain i gyd, a bydd y ffordd rydych chi’n pleidleisio yn effeithio arnyn nhw.

The Senedd building in Cardiff Bay

Fodd bynnag, ni all mynd i’r afael â thlodi ymwneud â gwasanaethau lleol a bennir yng Nghymru yn unig. Er mwyn delio â thlodi, rydym hefyd angen y math cywir o system dreth a budd-daliadau – wedi’i osod a’i benderfynu yn Llundain. Er mwyn taclo newid hinsawdd, mae angen newid yng Nghymru o ran ailgylchu, amaethyddiaeth a dylunio adeiladau, ond mae angen mynd i’r afael ag ef hefyd trwy drethi gwyrdd ac ymdrechion enfawr ledled y byd i gefnogi gwledydd sy’n datblygu a mynd i’r afael ag allyriadau byd-eang.

Felly ni fydd popeth yn cael ei sortio Mae Caerdydd, ond mae’n lle da i ddechrau.

Cofrestra

Cofrestra i bleidleisio erbyn 19eg Ebrill 2021. Os na fyddi di’n cofrestru mewn pryd, ni fyddi di’n cael pleidleisio yn Etholiadau’r Senedd ar y 6ed o Fai, ac ni fyddi di’n cael dweud dy dweud am dy ddyfodol ac am ddyfodol Cymru.Cer draw i wefan Gov.uk i gofrestru dy bleidlais heddiw.

Dim ond 5 munud mae’n ei gymryd!

“There’s no such thing as a vote that doesn’t matter. It all matters.” Barack Obama

More advice

View all
Pleidleisio yn agor mewn: 00 00 00 00 Defnyddia dy lais