Bydd unrhyw un sy’n 16 oed neu’n hŷn yn gallu pleidleisio yn etholiadau llywodraeth leol eleni, am y tro cyntaf, ar ôl i Aelodau’r Senedd bleidleisio yn 2020 i newid y rheolau yng Nghymru.
Rhaid i chi sicrhau eich bod ar y gofrestr etholiadol sydd gan yr awdurdod lleol lle rydych yn byw.
Mae’n syml iawn – ewch i’r wefan hon i gofrestru cyn 14eg Ebrill.
Gall bron pawb sy'n byw yng Nghymru - ble bynnag y cefaist dy eni - gofrestru. Mae hyn yn cynnwys unrhyw un o wledydd eraill ledled y byd sydd â chaniatâd i fyw yma.
Cofrestrwch i bleidleisio erbyn 14eg Ebrill 2022. Os na fyddwch wedi cofrestru mewn pryd, ni chewch bleidleisio yn yr etholiadau lleol ar 5ed Mai, ac ni fyddwch yn cael dweud eich dweud yn nyfodol eich cymuned.
Ewch i wefan Gov.uk i gofrestru i bleidleisio heddiw. Dim ond pum munud fyddwch chi!
“Our lives begin to end the day we become silent about things that matter.” Dr. Martin Luther King, Jr.