Bydd staff eich cyngor lleol yn dechrau cyfrif y pleidleisiau ar ôl i’r bleidlais ddod i ben am 10yh ar y diwrnod pleidleisio.
Weithiau mae’n rhaid iddynt eu cyfrif ddwywaith os yw’r canlyniadau’n agos.
Byddwn yn dechrau cael gwybod pwy sydd wedi ennill pa seddi cyngor ddydd Gwener 6ed Mai.
Bydd plaid neu grŵp gwleidyddol yn ennill rheolaeth dros gyngor os yw’n ennill y rhan fwyaf o seddi’r cyngor sydd ar gael. Os na fydd unrhyw blaid yn ennill mwyafrif cyffredinol, bydd angen i wahanol bleidiau drafod yr hyn sy’n digwydd nesaf.
Cofrestrwch i bleidleisio erbyn 14eg Ebrill 2022. Os na fyddwch wedi cofrestru mewn pryd, ni chewch bleidleisio yn yr etholiadau lleol ar 5ed Mai, ac ni fyddwch yn cael dweud eich dweud yn nyfodol eich cymuned.
Ewch i wefan Gov.uk i gofrestru i bleidleisio heddiw. Dim ond pum munud fyddwch chi!