Mae hwnnw’n gwestiwn anodd, ac mae’n anodd esbonio heb feirniadu.
Nid ydym yn mynd i ddweud wrthych pwy i bleidleisio drosto – felly rydym yn mynd i’ch cyfeirio at y pleidiau a’u hymrwymiadau.
Meddyliwch am y meysydd polisi rydych chi’n poeni amdanyn nhw, a’r penderfyniadau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â nhw.
Mae’r BBC wedi creu teclyn defnyddiol i’ch helpu i benderfynu pwy y gallech bleidleisio drosto yn seiliedig ar y pethau sy’n bwysig i chi.
Edrycha ar ganllaw polisi'r BBCOs oes gennych gwestiynau am feysydd polisi penodol y mae gennych ddiddordeb ynddynt wrth i’r ymgyrch etholiadol ddechrau, cysylltwch â ni a byddwn yn gwneud ein gorau i helpu.
Cysylltwch â ni“Your voice can make a difference to our country and the lives of all the people in it. Get out there and vote.” Charli XCX
Cofrestrwch i bleidleisio erbyn 14eg Ebrill 2022. Os na fyddwch wedi cofrestru mewn pryd, ni chewch bleidleisio yn yr etholiadau lleol ar 5ed Mai, ac ni fyddwch yn cael dweud eich dweud yn nyfodol eich cymuned.
Ewch i wefan Gov.uk i gofrestru i bleidleisio heddiw. Dim ond pum munud fyddwch chi!