Pleidleisio yn agor mewn: 00 00 00 00 Defnyddia dy lais
Cyngor

Sut alla i fod yn gynhorydd?

Os ydych chi’n poeni llawer am eich cymuned, neu os oes rhywbeth rydych chi am ei newid, gallwch sefyll i gael eich ethol fel cynghorydd lleol.

Mae’n bwysig bod cynghorwyr mor amrywiol â’r bobl sy’n eu hethol. Mae hyn yn golygu bod angen i ni gael mwy o bobl ifanc, mwy o fenywod, mwy o bobl o gymunedau Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, mwy o bobl anabl a mwy o bobl LGBTQ+ i sefyll mewn etholiad.

Wrth sefyll fel ymgeisydd, bydd angen i chi ddewis a ydych am sefyll dros blaid wleidyddol neu fel aelod annibynnol – mae hyn yn golygu nad ydych yn gysylltiedig â phlaid wleidyddol.

Os ydych am sefyll dros blaid wleidyddol, bydd angen i chi gysylltu â changen leol y blaid. Y rheswm am hyn yw y bydd y blaid a’i haelodau fel arfer yn dewis pwy all eu cynrychioli yn yr etholiadau lleol.

Os ydych am sefyll fel ymgeisydd annibynnol, mae’n well cael rhywfaint o gyngor gan wahanol sefydliadau, a all roi’r wybodaeth y bydd ei hangen arnoch. Mae gwefan Byddwch yn Gynghorydd. Sicrhewch Mai Chi yw’r Newid. yn rhoi gwybodaeth i chi am fod yn gynghorydd a sut i ddod yn gynghorydd.

Mae’r Comisiwn Etholiadol yn darparu gwybodaeth bwysig am sefyll yn yr etholiadau lleol. Mae hyn yn cynnwys sut i lenwi’r papurau enwebu y bydd angen i chi eu hanfon i sefyll mewn etholiad.

Gall eich cyngor lleol roi cyngor a gwybodaeth ynglŷn â sefyll mewn etholiad. Gallech hefyd gysylltu â’ch cynghorwyr presennol, a all ddweud wrthych sut beth yw bod yn gynghorydd a beth fydd angen i chi ei wneud.

Bydd angen i chi anfon eich ffurflenni enwebu erbyn 4yh ar 5ed Ebrill i sefyll etholiad fel cynghorydd lleol

Cofrestrwch ar gov.uk

Cofrestrwch i bleidleisio erbyn 14eg Ebrill 2022. Os na fyddwch wedi cofrestru mewn pryd, ni chewch bleidleisio yn yr etholiadau lleol ar 5ed Mai, ac ni fyddwch yn cael dweud eich dweud yn nyfodol eich cymuned.

Ewch i wefan Gov.uk i gofrestru i bleidleisio heddiw. Dim ond pum munud fyddwch chi!

More advice

View all
Pleidleisio yn agor mewn: 00 00 00 00 Defnyddia dy lais