Efallai eich bod yn angerddol iawn dros un blaid benodol – os felly gallwch gyfrannu at eu hymgyrch etholiadol a’u helpu i geisio ennill mwy o seddi.
Gallech fod yn galw pleidleiswyr, curo ar ddrysau, dosbarthu taflenni, neu gallech fod yn rhannu gwybodaeth ar-lein am yr hyn y maent yn credu ynddo.
Efallai eich bod yn angerddol iawn am un polisi yn benodol.
Gadewch i ni ddweud bod ailgylchu yn rhywbeth rydych chi wir yn poeni yn ei gylch.
Gallwch ofyn i’r ymgeiswyr yn eich ardal beth y byddent yn ei wneud pe baent mewn grym i gynyddu cyfraddau ailgylchu.
A oes ganddynt gynlluniau i fynd i’r afael â phlastigau untro, er enghraifft? Gallwch eu he-bostio neu gysylltu â nhw ar gyfryngau cymdeithasol.
Neu gallech gael gwybod am ddigwyddiad hustyngau lleol – sesiwn holi ac ateb lle mae cynrychiolwyr o bob plaid yn dod i gael eu holi gan bobl leol.
Chi sy’n penderfynu sut rydych yn codi eich llais.
Byddwch yn fwy argyhoeddiadol os byddwch yn ei gadw’n sifil ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Er enghraifft, a allwch gyfeirio at syniad da mewn gwlad arall sydd eisoes wedi lleihau’r defnydd o blastig?
Beth am ddechrau deiseb amdano neu rannu rhywfaint o gynnwys ar-lein gyda’ch ffrindiau?
Ond paid â gadael i unrhyw un ddweud wrthot nad yw dy farn yn cyfrif.
Cofrestrwch i bleidleisio erbyn 14eg Ebrill 2022. Os na fyddwch wedi cofrestru mewn pryd, ni chewch bleidleisio yn yr etholiadau lleol ar 5ed Mai, ac ni fyddwch yn cael dweud eich dweud yn nyfodol eich cymuned.
Ewch i wefan Gov.uk i gofrestru i bleidleisio heddiw. Dim ond pum munud fyddwch chi!