Mae rhai pobl yn hoff o fynd i’r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad, bwrw eu pleidlais ar bapur a’i roi yn y blwch pleidleisio.
Os ydych wedi cofrestru i bleidleisio, anfonir cerdyn pleidleisio atoch. Bydd hyn yn dweud wrthych lleoliad eich gorsaf bleidleisio agosaf.
Dim cerdyn pleidleisio? Peidiwch poeni! Os ydych wedi cofrestru i bleidleisio, gallwch fynd i’ch orsaf bleidleisio agosaf.
Fel arall, gallwch bleidleisio drwy’r post, ond bydd angen i chi gofrestru ar gyfer hyn hefyd.
Cynghorau lleol sy’n gyfrifol am gynnal yr etholiadau mewn gwirionedd, felly mae angen i chi naill ai ymweld â gwefan eich awdurdod lleol neu’r Comisiwn Etholiadol. Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen bleidleisio drwy’r post a’i hanfon yn ôl at eich awdurdod lleol. Oes – mae angen i chi wneud cais drwy’r post i bleidleisio drwy’r post.
Bydd angen i chi wneud eich cais cyn 19eg Ebrill i allu pleidleisio drwy’r post yn etholiadau lleol 5ed Mai.
Pan fyddwch wedi gwneud cais i bleidleisio drwy’r post, byddwch yn cael papur pleidleisio ac amlen drwy’r post. Yna rydych chi’n ei llenwi a’i hanfon yn ôl i’r cyfeiriad y mae’n ei ddarparu. Os byddwch yn anghofio ei bostio, peidiwch â phoeni – gallwch ei roi yn yr orsaf bleidleisio ar y diwrnod.
Os na allwch bleidleisio’n bersonol, gall rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo bleidleisio drosoch chi a byddwch chi’n dweud wrthyn nhw pwy i bleidleisio drosto. Gelwir hyn yn bleidlais drwy ddirprwy.
Gall unrhyw un fod yn ddirprwy i chi, cyn belled â’u bod wedi cofrestru i bleidleisio a bod hawl ganddynt hwy i bleidleisio.
Mae yna ffurflen bapur arall i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy – gallwch naill ai lawrlwytho ffurflen neu ofyn iddi gael ei hanfon atoch. Yna bydd angen i chi ei hanfon at eich cyngor lleol erbyn 26ain Ebrill i bleidleisio ‘drwy ddirprwy’.
Ar ddiwrnod pleidleisio, bydd angen i’ch ‘dirprwy’ fynd i’ch gorsaf bleidleisio i bleidleisio – gall hyn fod yn lleoliad gwahanol i’w hun nhw! Bydd yn rhaid iddynt ddweud tri pheth wrth eich gorsaf bleidleisio: eu henw, eich enw a’ch cyfeiriad. Gallant hefyd wneud cais i bleidleisio drosoch drwy’r post – gelwir hyn yn ddirprwyo drwy’r post.
Am fwy o wybodaeth ewch i: Electoral Commission: Pleidleisio drwy ddirprwy
Mae rheolau ynghylch coronafeirws wedi eu llacio, sy’n golygu y dylech allu pleidleisio yn yr etholiadau lleol yn ôl yr arfer.
Ni chaniateir i chi gymryd hunluniau yn y bwth pleidleisio na rhannu lluniau o’ch pleidleisiau ar gyfryngau cymdeithasol. Mae’n ymwneud â chadw pleidleisio’n gyfrinachol fel na all pobl eraill ddylanwadu arno.
Cofrestrwch i bleidleisio erbyn 19eg Ebrill 2022. Os na fyddwch wedi cofrestru mewn pryd, ni chewch bleidleisio yn yr etholiadau lleol ar 5ed Mai, ac ni fyddwch yn cael dweud eich dweud yn nyfodol eich cymuned.
Ewch i wefan Gov.uk i gofrestru i bleidleisio heddiw. Dim ond pum munud fyddwch chi!
“When we vote, our values are put into action and our voices are heard. Your voice is a reminder that you matter because you do, and you deserve to be heard.” Meghan Markle