Cynhelir etholiadau llywodraeth leol pob pedair blynedd fel arfer. Mae’r gymuned yn pleidleisio dros gynghorydd i’w chynrychioli am dymor o bedair blynedd – mae hyn yn golygu y bydd rhywun yn gynghorydd am bedair blynedd. Gallai etholiad lleol ddigwydd yn gynt os bydd cynghorydd yn rhoi’r gorau i’w sedd a bod angen ei llenwi, er enghraifft.
Eleni, caniateir i awdurdodau lleol ddewis pa system bleidleisio y mae’n ei defnyddio i ethol ei chynghorwyr. Gall hyn fod naill ai’n Gyntaf i’r Felin, neu’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy.
Pan ddefnyddir y system Cyntaf i’r Felin, bydd ymgeisydd yn ennill os yw’n cael y nifer uchaf o bleidleisiau. Dyna sut y caiff ASau eu hethol mewn Etholiadau Cyffredinol ar gyfer Senedd y DU.
Dan system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy, mae pleidleiswyr yn rancio rhestr o ymgeiswyr yn nhrefn eu dewis – gyda’u ffefryn fel rhif un, eu hail ffefryn fel rhif dau, ac yn y blaen. Math o gynrychiolaeth gyfrannol yw hwn ac mae’n golygu y bydd y canlyniadau’n adlewyrchu lleisiau pawb a bleidleisiodd – nid lleisiau pobl a bleidleisiodd dros yr ymgeisydd buddugol yn unig.
Cofrestrwch i bleidleisio erbyn 14eg Ebrill 2022. Os na fyddwch wedi cofrestru mewn pryd, ni chewch bleidleisio yn yr etholiadau lleol ar 5ed Mai, ac ni fyddwch yn cael dweud eich dweud yn nyfodol eich cymuned.
Ewch i wefan Gov.uk i gofrestru i bleidleisio heddiw. Dim ond pum munud fyddwch chi!