Rydyn ni eisiau sicrhau fod pobl ifanc yn rhan o'r broses wleidyddol - i sicrhau eu bod nhw'n cael siapio eu dyfodol a'r Cymru maen nhw am fyw ynddi.
Y nod yw cael pobl ifanc yng Nghymru i siarad am wleidyddiaeth a sut mae’n effeithio ar eu bywydau a’r pethau maen nhw’n poeni amdanyn nhw.
Fis Mai hwn, gall pobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio yn Etholiadau’r Senedd am y tro cyntaf. Rydyn ni am sicrhau eu bod nhw’n gwybod bod ganddyn nhw’r hawl a’r pŵer i fynnu’r dyfodol maen nhw ei eisiau yn y blwch pleidleisio.
Mae Clybiau Bechgyn a Merched Cymru yn arwain y prosiect, ar ôl derbyn grant gan Gronfa Democratiaeth y DU.
Ymhlith y partneriaid mae Swansea MAD sy’n gweithio gyda phobl ifanc i greu a rhannu cynnwys ac annog addysg anffurfiol a sgyrsiau diddorol am bethau y mae pobl ifanc eisiau siarad amdanynt.
Mae’r ymgyrch ddigidol yn cael ei datblygu gan Blue Stag, ac mae Deryn yn darparu cyngor ar etholiadau ac ymgyrchu.
“Mae Swansea MAD yn gyffrous iawn i fod yn rhan o’r ymgyrch coda dy lais. Mae pleidleisio yn 16 oed yn garreg filltir enfawr i bobl ifanc a democratiaeth yng Nghymru, ond rydyn ni'n gwybod nad dyna ddiwedd y daith. Mae gan bobl ifanc syniadau ar sut y dylid gwneud democratiaeth yn fwy cynhwysol ac ar gael i fwy o bobl, a gobeithiwn y bydd yr ymgyrch coda dy lais yn darparu llwyfan a momentwm i helpu i wireddu'r syniadau hynny.” Rachel Benson - Swansea MAD
“Am y tro cyntaf erioed bydd pobl ifanc 16 a 17 oed yn cael dweud eu dweud am ddyfodol eu hunain. Mae Coda Dy Lais yn darparu llwyfan i alluogi pobl ifanc i rannu cynnwys a dysgu am faterion sy'n effeithio ar eu bywydau.” Grant Poiner - Boys and girls club