Pleidleisio yn agor mewn: 00 00 00 00 Defnyddia dy lais

Nid y Criw Arferol

4 Maw 2021
Gan Grant Poiner

Un o’r rhesymau pam fod Clybiau Bechgyn a Merched Cymru wedi helpu i lunio’r ymgyrch yma gyda phobl ifanc yw oherwydd llwyddiant y gwaith cyn yr etholiad diwethaf, pan welwyd gymaint o ddiddordeb oedd gan y bobl ifanc rydyn ni’n gweithio gyda nhw mewn gwleidyddiaeth. Yn aml mae lleisiau’r  bobl ifanc yma yn cael eu hanwybyddu, ac ddim yn cael eu  clywed yn y system wleidyddol.

Felly mi wnaethon ni drefnu hystings gwleidyddol cyn Etholiad y Senedd diwethaf er mwyn rhoi’r cyfle i bobl ifanc i holi’r gwleidyddion. Nid oeddem yn siwr sut y byddai’n mynd, na faint o fobl ifanc fyddai’n troi lan.

Roedd yn anhygoel.

Fe wnaethom ei drefnu mewn parc trampolîn ac roedd y plant ifanc wrth eu boddau. Roedd hyd yn oed y gwleidyddion wrth eu boddau, ac yn dweud wrthym fod y digwyddiad yn un o’r rhai gorau iddynt fod yn rhan ohono. Fe wnaethon ni ennill dwy wobr hefyd – am yr Ymgyrch Wleidyddol Orau yng Nghymru, ac am wobr Gwaith Ieuenctid.

Roedd y bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed ac o ardaloedd â diweithdra uchel, amddifadedd cymdeithasol a chyfyngiadau ariannol.

Cynhaliwyd “Not the Usual Hustings” ym Mharc Infinity Trampoline, Caerdydd dan gadeiryddiaeth Steffan Powell o Newsbeat BBC Radio 1. Roedd dros 100 o bobl ifanc yno yn cymryd rhan, ac roedd gwleidyddion o’r 6 prif blaid yn bresennol i gynrychioli ei pleidiau. Cyflwynodd y bobl ifanc gwestiynau ar faterion o bwysigrwydd personol iddynt hwy: gan gynnwys canlyniadau addysgol i bobl ifanc sy’n gadael gofal, cefnogaeth i blant maeth a materion cenedlaethol a byd-eang ehangach.

Rhoddodd y digwyddiad gyfle i’r bobl ifanc ymweld â marchnad, gyda stondinau amrywiol gan y pleidiau gwleidyddol a sefydliadau gan gynnwys UCM Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Roedd yn ffordd wych o’u hannog i gasglu gwybodaeth am wahanol bolisïau gan y pleidiau cyn y digwyddiad.

Newidiodd llawer o’r bobl ifanc eu hagweddau tuag at wleidyddiaeth yn dilyn y digwyddiad, gydag un person ifanc yn dweud bod y prosiect wedi “newid y ffordd rwy’n gweld gwleidyddiaeth a gwleidyddion.”

O ganlyniad i fod yn rhan o'r prosiect, dywedodd 70% o'r bobl ifanc y byddent yn pleidleisio pe gallent wneud hynny. Roedd 55% o'r bobl ifanc o'r farn bod eu gwybodaeth am wleidyddiaeth yn “dda” yn dilyn cymryd rhan yn y prosiect.

Rydyn ni’n gobeithio cynnal fersiynau ar-lein eleni, ond am y tro, byddwn ni’n gobeithio sbarduno trafodaeth ar-lein rhwng pobl ifanc.

“Rwyf wedi dysgu cymaint amdanaf fy hun, am eraill ac am wleidyddiaeth ac wedi goresgyn llawer o ofnau ar hyd y ffordd. Dyma oedd y profiad gorau erioed.” Ieuan Davies - 18

You might also like

Hanes y Senedd
View all
Pleidleisio yn agor mewn: 00 00 00 00 Defnyddia dy lais