Pleidleisio yn agor mewn: 00 00 00 00 Defnyddia dy lais
Ein hamser ni

Wyt ti'n Barod?

Am y tro cyntaf yng Nghymru, gall pobl ifanc 16 a 17 oed gofrestru i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd eleni, sydd wedi eu trefnu ar gyfer dydd Iau 5 Mai.

Siapia dy ddyfodol

Pwy ddylai benderfynu faint o arian y dylid ei wario ar wasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc? Neu sut i fynd i’r afael â thlodi teulu? Neu a ydyn ni’n gwneud digon i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd?

Pam na ddyle ti fod yn rhan o’r penderfyniadau yma?

Mae dy lais yn bwysig. Mae Etholiadau’r Senedd yn rhoi’r cyfle i ti ddweud dy ddweud ar faterion sy’n effeithio ar ein bywydau yma yng Nghymru, fel:

  • addysg
  • gofal iechyd
  • tai
  • yr amgylchedd
  • yr economi
  • yr iaith Gymraeg.
Cofrestrwch i bleidleisio
Paid ag aros yn dawel tra bod dy ddyfodol yn cael ei benderfynu ar dy ran
“We all have to vote like our lives and the world depend on it, because they do. The only way to be certain of the future is to make it ourselves.” Billie Eilish

Bydd yn rhan o hanes

Am y tro cyntaf erioed, gall pobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio yng Nghymru. Galli di fod yn rhan o hanes, a gwneud newid hanesyddol i bobl ifanc yma yng Nghymru trwy wneud i wleidyddion eistedd i fyny a gwrando.

Pleidleisio mewn etholiadau yw un o’r ffyrdd mwyaf pwerus i ddylanwadu ar ein dyfodol ein hunain a dyfodol Cymru. Pan wyt ti’n defnyddio dy bleidlais, rwyt ti’n helpu i benderfynu pwy sy’n dy gynrychioli di ac yn gwneud penderfyniadau mawr ar dy ran. Mae gwleidyddiaeth a democratiaeth yn dylanwadu ar bopeth o dy gwmpas, ac ar hyn o bryd gall mwy o bobl bleidleisio yng Nghymru nag erioed o’r blaen.

Register to vote Register to vote Register to vote
Paid ag aros yn dawel tra bod dy ddyfodol yn cael ei benderfynu ar dy ran! Gwna’n siŵr dy fod wedi cofrestru i bleidleisio erbyn 14eg o Ebrill a bydd yn barod i Godi Dy Lais yn ystod yr ymgyrch.

Mae’n hawdd

Mae’n rhaid i dy enw fod ar y Gofrestr Etholiadol er mwyn gallu pleidleisio mewn etholiadau, a dyna pam mae angen i ti gofrestru gyntaf. Gall wneud hyn ar ffôn symudol, tabled neu neu gyfrifiadur, a dim ond pum munud y mae’n ei gymryd.

Mi alli di gofrestru i bleidleisio ar unrhyw adeg, ond y dyddiad cau i gofrestru ar gyfer etholiad Cymru 2022 yw dydd Llun 14eg o Ebrill 2021. Mae angen i ti gofrestru cyn y dyddiad hwnnw i allu pleidleisio. Os nad wyt ti’n siŵr os yr wyt eisoes wedi cofrestru i bleidleisio, cwblha y ffurflen ar-lein a byddwn yn gwirio dy fanylion.

Os wyt ti dros 16 oed, bydd angen dy Rif Yswiriant Gwladol arnot i gofrestru. I’r rhai sy’n 14 oed neu’n hŷn, mi alli di gofrestru er nad wyt ti wedi cael Rhif Yswiriant Gwladol eto.

Cofrestrwch ar gov.uk

Cofrestrwch i bleidleisio erbyn 14eg Ebrill 2022. Os na fyddwch wedi cofrestru mewn pryd, ni chewch bleidleisio yn yr etholiadau lleol ar 5ed Mai, ac ni fyddwch yn cael dweud eich dweud yn nyfodol eich cymuned.

Ewch i wefan Gov.uk i gofrestru i bleidleisio heddiw. Dim ond pum munud fyddwch chi!